Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Medi 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeirydd y pwyllgor canlynol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Thomas Cook yn cau? (TAQ341)
(5 munud)
(60 munud)
NDM7139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2019.
(60 munud)
NDM7140 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn nigwyddiad rhanddeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth ynghylch blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2020-21 sydd ar y gweill.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid: cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21, Mehefin 2019
(60 munud)
NDM7141 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.
2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.
4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.
Cytuniad yn sefydlu Cymuned Economaidd Ewrop
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical”.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE”.
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3, yn lle “fel toll”, rhoi “fel plismona a chyfiawnder a tholl”.
Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU:
a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;
b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.
[Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 5, ar ôl 'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'.
(30 munud)
NDM7142 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Agwedd ysgol gyfan Cymru: cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019